Croeso i Pili Palas!
Atyniad teulu gorau Sir Fôn!
Mae'r wefan Cymraeg wrthi'n cael ei ddatblygu, ac mi fydd yn barod yn fuan...
Mae Byd Natur Pili Palas yn adnabyddus fel fferm loynnod mwyaf Cymru – ond os dewch chi
draw i’n gweld, neu ddilyn eich trwyn o gwmpas y safle hwn, mi welwch ei bod hi’n jyngl go’ iawn i mewn yn fam’ma!
Cliciwch yma er mwyn cael rhestr o’n horiau agor a’n prisiau ar gyfer 2012.
Mi fedr y rhai bychan neidio a rowlio yn ein lle chwarae medal – tra medr y plant hyn daclo ein parc chwarae antur.
Gwnewch yn siwr nad ydych yn gadael Pili Palas cyn I chi ddod o hyd I’r holl greaduriaid sydd wedi eu cuddio ar y llwybr natur.
Mae gan ein siop liwgar degannau, anrhegion a llyfrau ar gyfer pob oed a mae’r caffi yn gweini prydau cartref blasus. Os byddwch chi’n lwcus mi fedrwch eistedd wrth fwrdd yn yr ystafell haul er mwyn gwylio’r “chipmunks” yn chwarae wrth i chi fwyta – ac os byddwch chi yma yn y gwanwyn mi fedrwch chi eistedd yn gwylio’r titw-tomos yn nythu, yn fyw, ar ein camera arbennig!
Er mwyn darganfod mwy am bopeth sydd gan Pili Palas i’w gynnig yna crwydrwch o amgylch ein safle. Er mwyn cysylltu hefo ni e-bostiwch:info@pilipalas.co.uk
Atyniad teulu gorau Sir Fôn!
Mae'r wefan Cymraeg wrthi'n cael ei ddatblygu, ac mi fydd yn barod yn fuan...
Mae Byd Natur Pili Palas yn adnabyddus fel fferm loynnod mwyaf Cymru – ond os dewch chi
draw i’n gweld, neu ddilyn eich trwyn o gwmpas y safle hwn, mi welwch ei bod hi’n jyngl go’ iawn i mewn yn fam’ma!Cliciwch yma er mwyn cael rhestr o’n horiau agor a’n prisiau ar gyfer 2012.
| Wedi i chi gyfarfod y gloynnod a’r adar, symudwch ymlaen i dy’r ymlusgiaid er mwyn treulio amser hefo nadroedd o bob math – rhai bach a rhai mawr iawn! Drws nesa’ mae gwlad y gena goeg – ble byddwch yn dod wyneb i wyneb a iguana, dreigiau, skinks a geckos o bob rhan o’r byd. | |
| Ar ol hynny ‘da ni’n eich herio i ymweld a chuddfan drofannol y tarantwlau, sgorpionau, brogaod a malwod mawr Affrica! Peidiwch ag anghofio cornel yr anifeiliad anwes ble mae’r cwningod, moch cwta, bochdew a’r llygod mawr yn byw. |
|
Mi fedr y rhai bychan neidio a rowlio yn ein lle chwarae medal – tra medr y plant hyn daclo ein parc chwarae antur.
Gwnewch yn siwr nad ydych yn gadael Pili Palas cyn I chi ddod o hyd I’r holl greaduriaid sydd wedi eu cuddio ar y llwybr natur.
Mae gan ein siop liwgar degannau, anrhegion a llyfrau ar gyfer pob oed a mae’r caffi yn gweini prydau cartref blasus. Os byddwch chi’n lwcus mi fedrwch eistedd wrth fwrdd yn yr ystafell haul er mwyn gwylio’r “chipmunks” yn chwarae wrth i chi fwyta – ac os byddwch chi yma yn y gwanwyn mi fedrwch chi eistedd yn gwylio’r titw-tomos yn nythu, yn fyw, ar ein camera arbennig!Er mwyn darganfod mwy am bopeth sydd gan Pili Palas i’w gynnig yna crwydrwch o amgylch ein safle. Er mwyn cysylltu hefo ni e-bostiwch:info@pilipalas.co.uk
| Ein lluniau diweddaraf.... | |